Fy nymuniad, paid â gorffwys
Ar un tegan is y nef;
Eto 'rioed ni welodd llygad
Wrthrych tebyg iddo Ef:
Cerdda rhagot,
'Rwyt ti bron a'i wir fwynhau.
Ffárwel, ffárwel oll a welaf,
Oll sydd ar y ddaer yn byw;
Gedwch imi, ond munudyn,
Gael yn rhywle gwrdd a'm Duw:
Dyna leinw
'Nymuniadau oll yn un.
D'air a wnaeth y moroedd helaeth,
D'air a wnaeth y ddaear fawr,
D'air a greodd lu'r ffurfafen
Sydd yn hongian uwch y llawr:
'Mysg a greaist,
'Does gyffelyb
it dy Hun.
Tyrd, yr Hwn wyt yn hawddgarach
Na'th greaduriaid maith eu rhi';
Pryd y doi, y gwnei dy drigfan
Bob munudyn gyda mi?
Tyrd yn fuan,
Arglwydd, at y sawl a'th gâr.
William Williams 1717-91Ffarwel Weledig 1763
Tonau [878747]:
gwelir: |
My desire, do not rest
On any trinket under heaven;
Never yet has any eye seen
An object like unto Him:
Walk on,
Thou art almost truly enjoying him.
Farewell, farewell to all I see,
All that is living on the earth;
Let me, only for a moment,
Somewhere get to meet my God:
That will fulfil
My desires all in one.
Thy word made the vast oceans,
Thy word made the great earth,
Thy word created the host of the firmament
Which are hanging above the earth:
Amongst what thou hast made,
There is nothing comparable
to thee Thyself.
Come, thou who art more beautiful
Than thy creatures of vast number;
When thou comest, wilt thou make thy abode
Every moment with me?
Come soon,
Lord, to those thou lovest.
tr. 2011 Richard B Gillion
|
|